|
|||||||||
|
|
Yn gweithio i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i dirwedd, amgylchedd, a threftadaeth unigryw Mynyddoedd CambriaAelodaeth | Newyddion | Cyfansoddiad | Pwyllgor | Polisi Iaith Ffurfiwyd Cymdeithas Mynyddoedd Cambria gyda'r amcanion canlynol: 1. Hyrwyddo, er lles y cymunedau lleol, a'r cyhoedd ehangach, fesurau fydd yn cynnal neu ychwanegu at dirwedd, harddwch naturiol, bioamrywiaeth, archaeoleg, diddordeb gwyddonol, a threftadaeth ddiwylliannol Mynyddoedd Cambria; 2. Hyrwyddo addysg y cyhoedd yn nhirwedd, harddwch naturiol, bioamrywiaeth, archaeoleg, anian gwyddonol, treftadaeth ddiwylliannol a geoamrywiaeth Mynyddoedd Cambria. Rydym yn credu bod methu enwebu Parc Cenedlaethol ym 1973,
diffyg canlynol unrhyw hunaniaeth swyddogol gydlynol ar gyfer
Mynyddoedd Cambria, a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn eu
hystyried yn ymylol a dibwys, wedi eu gadael yn agored i ddatblygu
tameidiog a chamddefnydd. Effaith gynyddol hyn oll yn y pendraw
fydd dinistrio'r nodweddion y bwriadwyd eu dathlu a'u hamddiffyn
trwy eu henwi'n Barc Cenedlaethol. Fodd bynnag, yr ydym yn
cydnabod y gall enwebu Parc Cenedlaethol fod llawn mor ddadleuol
nawr ag y bu ym 1973.
Mae'r Gymdeithas yn falch o gael Iolo Williams, naturiaethwr a darlledwr yn Llywydd. Mae aelodaeth o'r Gymdeithas yn agored i unigolion dros 18 oed, ac i gyrff corfforedig sy'n cefnogi amcanion y Gymdeithas. Elusen anghorfforedig a gofrestredig yw'r Gymdeithas, rhif 1113037. Yn ogystal ag ymgyrchu, mae'r Gymdeithas yn gobeithio trefnu digwyddiadau i aelodau trwy holl ardal Mynyddoedd Cambria, yn rhan o'i hymroddiad i'w hail amcan.
|
||||||||