Tirwedd Mynyddoedd Cambria

Panoramâu

Mae tirweddau Mynyddoedd Cambria yn syfrdanol, nid cymaint am yr harddwch naturiol llym sydd mor drawiadol mewn ardaloedd mwy mynyddig, ond am y gorwelion eang, yr ymdeimlad o le, ac am y golygfeydd dros donnau'r bryniau gwyllt sy'n diflannu i'r pellter. Mae bron yn amhosibl i lun cyffredin wneud cyfiawnder â hanfod y llefydd hyn, felly dyma gasgliad bach o banoramâu.

D.S. Mae rhai cyfrifiaduron yn gwrthod dangos y panoramâu ac nid ydym wedi darganfod pam eto. Os na fydd eich dewis cyntaf yn gweithio, byddwch cystal â derbyn ein hymddiheuriadau a pheidiwch â gwastraffu'ch amser ar y gweddill.

Safbwynt Cyfeirnod Grid a Lleoliad
Blaen Rhestr SN 844693 Blaen Rhestr, Cwm Elan
Carnyrhyrddod SN 790703 Carnyrhyrddod, i'r de o Gwmystwyth
Carreg Naw Llyn SN 797699 Uwchlaw Llynnoedd Teifi
Cnwch SN 926636 Ger Pentref Elan
Cors Caron SN 693627 Golygfa o ganol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Unigryw
Craig Lan-las SN 758747 Ger Pontarfynach
Crugyn Ci SN 926687 Ger Rhaeadr Gwy
Dinas SN 743833 Bryngaer hynafol a golygfeydd ysblennydd dros Bumlumon a blaenau dyffryn Rheidol
Garn Gron SN 741611 Ar ymyl Mynyddoedd Cambria ger Ystrad Fflur
Lan-du Fawr SN 788700 Tarddle afonydd Claerddu a Theifi
Pen Glog-fawr SN 748707 Ger Ysbyty Ystwyth
Pumlumon Fawr SN 790870 Y man uchaf ym Mynyddoedd Cambria
Trawsallt SN 779704 Ger Cwmystwyth

Os na ddaethoch at y dudalen hon o wefan Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, cliciwch ar y cyswllt i fynd yno nawr