Ardal eang o ucheldiroedd yng Nghanolbarth Cymru yw Mynyddoedd
Cambria. Mae'r ardal mor wyllt ac amhoblog, fel i rai awduron
gynt ei disgrifio fel "Anialwch Gwyrdd Cymru" -
enw braidd yn anaddawol i un o dirweddau mwyaf hardd, lliwgar
ac amrywiol de Prydain!
Mynyddoedd Cambria sy'n llenwi'r bwlch rhwng y eu cymdogion
mwy adnabyddus, sef Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
ac Eryri . Yn 1965, cychwynnwyd ar y broses o enwebu Parc
Cenedlaethol Mynyddoedd Cambria. Ceir hanes yr ymdrech
honno, a'i methiant terfynol ym 1973, mewn lle arall ar y
wefan hon.
Mae Mynyddoedd Cambria yn cynnwys Pumlumon - mynydd uchaf
y Canolbarth (752m/2,468') - yn ogystal â'r ardal fynyddig
a elwir Elenydd; mae'n cynnwys blaenddyfroedd llawer o afonydd
mawrion Cymru - Gwy a Hafren, Rheidol, Ystwyth, Elan, Tywi,
Teifi ac Irfon.
Yng nghanol yr ardal mae dalgylch afon Elan, gyda'i chadwyn
swynol o gronfeydd dwr a grëwyd i gyflenwi Birmingham.
Bellach mae rhan helaeth o Elenydd wedi'i dynodi yn Safle
o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a reolir gan Ymddiriedolaeth
Cwm Elan - corff elusennol.
Yn sgil y diddordeb cynyddol mewn sicrhau cydnabyddiaeth
swyddogol o bwysigrwydd tirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth
Mynyddoedd Cambria, ffurfiwyd Cymdeithas
Mynyddoedd Cambria yn 2005.
|