Cymdeithas Mynyddoedd Cambria

Cymdeithas Mynyddoedd Cambria

Yn gweithio i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i dirwedd, amgylchedd, a threftadaeth unigryw Mynyddoedd Cambria

Elan

Llanddewi

Drygarn Fawr

Cwm Rheidol

Blaen Myherin

Lluniau Hawlfraint
Martin Wright.
Cliciwch i ehangu

Aelodaeth | Newyddion | Cyfansoddiad | Pwyllgor | Polisi Iaith

Ffurfiwyd Cymdeithas Mynyddoedd Cambria gyda'r amcanion canlynol:

1. Hyrwyddo, er lles y cymunedau lleol, a'r cyhoedd ehangach, fesurau fydd yn cynnal neu ychwanegu at dirwedd, harddwch naturiol, bioamrywiaeth, archaeoleg, diddordeb gwyddonol, a threftadaeth ddiwylliannol Mynyddoedd Cambria;

2. Hyrwyddo addysg y cyhoedd yn nhirwedd, harddwch naturiol, bioamrywiaeth, archaeoleg, anian gwyddonol, treftadaeth ddiwylliannol a geoamrywiaeth Mynyddoedd Cambria.

Rydym yn credu bod methu enwebu Parc Cenedlaethol ym 1973, diffyg canlynol unrhyw hunaniaeth swyddogol gydlynol ar gyfer Mynyddoedd Cambria, a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn eu hystyried yn ymylol a dibwys, wedi eu gadael yn agored i ddatblygu tameidiog a chamddefnydd. Effaith gynyddol hyn oll yn y pendraw fydd dinistrio'r nodweddion y bwriadwyd eu dathlu a'u hamddiffyn trwy eu henwi'n Barc Cenedlaethol. Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod y gall enwebu Parc Cenedlaethol fod llawn mor ddadleuol nawr ag y bu ym 1973.

Bydd Cymdeithas Mynyddoedd Cambria felly yn ceisio hyrwyddo ei hamcanion trwy ymgyrchu dros enwebu Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Mynyddoedd Cambria.

Beth yw AHNE?

Mae'r Gymdeithas yn falch o gael Iolo Williams, naturiaethwr a darlledwr yn Llywydd.

Mae aelodaeth o'r Gymdeithas yn agored i unigolion dros 18 oed, ac i gyrff corfforedig sy'n cefnogi amcanion y Gymdeithas. Elusen anghorfforedig a gofrestredig yw'r Gymdeithas, rhif 1113037.

Yn ogystal ag ymgyrchu, mae'r Gymdeithas yn gobeithio trefnu digwyddiadau i aelodau trwy holl ardal Mynyddoedd Cambria, yn rhan o'i hymroddiad i'w hail amcan.

Sut gallwch chi helpu'r Gymdeithas

1. Dod yn aelod
Helpwch ni i ddangos bod cefnogaeth boblogaidd i AHNE, yn ardal Mynyddoedd Cambria, ar ei chyrion ac yn genedlaethol ledled Cymru a'r DG. Bydd eich tanysgrifiad yn ein cynorthwyo ni gyda'n gwaith ymgyrchu.

GWYBODAETH AELODAETH

2. Rhoi cyfraniad ar ben eich tanysgrifiad, os gallwch chi.

3. Os hoffech helpu'r Gymdeithas yn ymarferol, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni wrth ymaelodi.

4. Lledaenu'r gair

Os gallwch chi ddosbarthu neu ddangos copïau o daflen aelodaeth y Gymdeithas, byddwch cystal â chysylltu â'r Alun Jones, 6 Teras Nantymwyn, Rhandirmwyn, Llanymddyfri, SA20 0NS.

CAMBRIAN
MOUNTAINS
MYNYDDOEDD
CAMBRIA
TIRWEDD
CYMDEITHAS MYNYDDOEDD CAMBRIA
MATERION
AELODAETH
NEWYDDION
HANES Y PARC CENEDLAETHOL
PARCIAU CENEDLAETHOL AC AHNEau
CYSYLLTAU MYNYDDOEDD CAMBRIA
PANORAMÂU
CYSYLLTU Â CHYMDEITHAS MYNYDDOEDD CAMBRIA
ARDAL YR AELODAU