Gwarchod Tirweddau yn y DG
Roedd y ddeddfwriaeth a ganiataodd creu Parciau Cenedlaethol yng
Nghymru a Lloegr yn rhan o Ddeddf Parciau Cefn Gwlad a Mynediad
i Gefn Gwlad 1949. Mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd helaeth
sydd â'u hawdurdodau rheoli eu hunain i gadw a gwella eu harddwch
naturiol, bywyd gwyllt a'u treftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo
cyfleoedd i wella a mwynhau eu nodweddion arbennig
Crëwyd deg parc yn y DG yn ystod y 1950au: Ardal y Llynnoedd,
Ardal y Copaon, Dyffrynnoedd Swydd Efrog, Rhostiroedd Gogledd Swydd
Efrog, Dartmoor, Exmoor, Northumberland, Eryri, Bannau Brycheiniog
ac Arfordir Penfro.
Roedd Deddf 1949 hefyd yn darparu ar gyfer creu Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol, sef tirweddau y mae eu cymeriad nodweddiadol
a'u harddwch naturiol mor eithriadol ei bod o fudd i'r genedl i'w
diogelu'n gyfreithiol mewn ffordd a all symbylu polisïau arbennig
ar gyfer rheoli datblygu ac annog defnyddio tir yn briodol. Penrhyn
Gwyr, a grëwyd ym 1956, oedd yr AHNE gyntaf, ac erbyn hyn mae'r
cyfanswm wedi cyrraedd 41.
Er i AHNEau gael eu creu o bryd i'w gilydd ers y 1950au, mae'n
anos o lawer ychwanegu at y rhestr o Barciau Cenedlaethol. Crëwyd
Awdurdod Llynnoedd Norfolk a Suffolk ym 1988 gan ddeddfwriaeth arbennig,
ond mae ganddo bwerau tebyg i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, a
chyfeirir ato fel arfer fel yr unfed PC ar ddeg. Yn ddiweddar daeth
y Fforest Newydd yn Barc Cenedlaethol yn 2005 ac mae Parc Cenedlaethol
y Twyni Deheuol yn destun ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd.
Ers datganoli mae deddfwriaeth yn yr Alban wedi paratoi'r ffordd
i Barciau Cenedlaethol yn yr Alban, a bellach mae dau wedi eu sefydlu:
y Cairngorms a Llyn Llumonwy a'r Trossachs.
Mynyddoedd Cambria
Os edrychwch ar fap tirwedd sy'n dangos Parciau Cenedlaethol ac
AHNEau Cymru a Lloegr, fe sylwch yn fuan iawn ar un ardal o ucheldir
nad yw'n Barc Cenedlaethol nac yn AHNE; dyna Ganolbarth Cymru. Oni
bai i chi fynd yno, gallech yn hawdd ddod i'r casgliad - a fyddai
neb yn eich beio - bod y Canolbarth yn rhyw fath o ddiffeithwch
hysb nad yw'n haeddu cael ei warchod. Ond camargraff byddai hynny.

Ym 1965, ymhell cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ddod i fodolaeth,
penderfynodd Comisiwn y Parciau Cenedlaethol y dylai Mynyddoedd
Cambria fod yn Barc Cenedlaethol: yr unfed ar ddeg ym Mhrydain;
ym 1972, Gwnaeth y Comisiwn Cefn Gwlad (y corff a olynodd Gomisiwn
y Parciau Cenedlaethol) Orchymyn Parc Cenedlaethol (Dynodi) i'w
gadarnhau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Wrth wneud y Gorchymyn, roedd y Comisiwn yn ystyried bod y dirwedd
o bwys cenedlaethol ar lefel y DG. Yn ôl un dyfyniad nodedig:
"
cut by deep wooded valleys and gorges,
their rolling moorlands are colourful at all seasons and are one
of Britain's loveliest and most attractive countrysides .
attracting discerning visitors in increasing numbers who appreciate
that this 'spirit of Wales' is the equal in beauty of many existing
national parks."

Felly beth aeth o'i le?
Gwrthwynebwyd y Gorchymyn gan y rhan fwyaf o'r awdurdodau a effeithiwyd,
a chan ffermwyr, ac ym 1973 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol,
Peter Thomas, ei benderfyniad i beidio â chadarnhau'r Gorchymyn,
gan synnu a digio'r Comisiwn Cefn Gwlad. Gollyngwyd y syniad ac
nid yw'r Comisiwn Cefn Gwlad na'i olynydd datganoledig, Cyngor Cefn
Gwlad Cymru (CCW) erioed wedi ei atgyfodi. Aeth Mynyddoedd Cambria
yn angof: un o dirweddau harddaf Cymru a Lloegr, sy'n ddi-os yn
haeddu statws Parc Cenedlaethol, ond sydd heb ei chydnabod na'i
gwarchod o gwbl a hynny ar fympwy gwleidydd.

Wrth gyhoeddi ei wrthodiad, rhestrodd yr Ysgrifennydd Gwladol naw
rheswm a nodwyd gan wrthwynebwyr i'r cynnig i greu Parc, a'r olaf
o'r rhain oedd y byddai statws AHNE yn fwy priodol i Fynyddoedd
Cambria na Pharc Cenedlaethol. O edrych yn ôl 30 mlynedd,
mae rhywun yn synnu o ddysgu na cheisiodd y Comisiwn Cefn Gwlad
achub rhywbeth o 8 mlynedd o waith trwy wneud cais am AHNE. Ond
ar y pryd mae'n rhaid bod y Comisiwn wedi teimlo y caent eu gwrthod
eto.
|