Tirwedd Mynyddoedd Cambria

Facebook page

Hanes Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Cambria

Gwarchod Tirweddau yn y DG

Roedd y ddeddfwriaeth a ganiataodd creu Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yn rhan o Ddeddf Parciau Cefn Gwlad a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd helaeth sydd â'u hawdurdodau rheoli eu hunain i gadw a gwella eu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'u treftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd i wella a mwynhau eu nodweddion arbennig

Crëwyd deg parc yn y DG yn ystod y 1950au: Ardal y Llynnoedd, Ardal y Copaon, Dyffrynnoedd Swydd Efrog, Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog, Dartmoor, Exmoor, Northumberland, Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Roedd Deddf 1949 hefyd yn darparu ar gyfer creu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef tirweddau y mae eu cymeriad nodweddiadol a'u harddwch naturiol mor eithriadol ei bod o fudd i'r genedl i'w diogelu'n gyfreithiol mewn ffordd a all symbylu polisïau arbennig ar gyfer rheoli datblygu ac annog defnyddio tir yn briodol. Penrhyn Gwyr, a grëwyd ym 1956, oedd yr AHNE gyntaf, ac erbyn hyn mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 41.

Er i AHNEau gael eu creu o bryd i'w gilydd ers y 1950au, mae'n anos o lawer ychwanegu at y rhestr o Barciau Cenedlaethol. Crëwyd Awdurdod Llynnoedd Norfolk a Suffolk ym 1988 gan ddeddfwriaeth arbennig, ond mae ganddo bwerau tebyg i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, a chyfeirir ato fel arfer fel yr unfed PC ar ddeg. Yn ddiweddar daeth y Fforest Newydd yn Barc Cenedlaethol yn 2005 ac mae Parc Cenedlaethol y Twyni Deheuol yn destun ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd.

Ers datganoli mae deddfwriaeth yn yr Alban wedi paratoi'r ffordd i Barciau Cenedlaethol yn yr Alban, a bellach mae dau wedi eu sefydlu: y Cairngorms a Llyn Llumonwy a'r Trossachs.

Mynyddoedd Cambria

Os edrychwch ar fap tirwedd sy'n dangos Parciau Cenedlaethol ac AHNEau Cymru a Lloegr, fe sylwch yn fuan iawn ar un ardal o ucheldir nad yw'n Barc Cenedlaethol nac yn AHNE; dyna Ganolbarth Cymru. Oni bai i chi fynd yno, gallech yn hawdd ddod i'r casgliad - a fyddai neb yn eich beio - bod y Canolbarth yn rhyw fath o ddiffeithwch hysb nad yw'n haeddu cael ei warchod. Ond camargraff byddai hynny.

Ym 1965, ymhell cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ddod i fodolaeth, penderfynodd Comisiwn y Parciau Cenedlaethol y dylai Mynyddoedd Cambria fod yn Barc Cenedlaethol: yr unfed ar ddeg ym Mhrydain; ym 1972, Gwnaeth y Comisiwn Cefn Gwlad (y corff a olynodd Gomisiwn y Parciau Cenedlaethol) Orchymyn Parc Cenedlaethol (Dynodi) i'w gadarnhau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Wrth wneud y Gorchymyn, roedd y Comisiwn yn ystyried bod y dirwedd o bwys cenedlaethol ar lefel y DG. Yn ôl un dyfyniad nodedig:

"…cut by deep wooded valleys and gorges, their rolling moorlands are colourful at all seasons and are one of Britain's loveliest and most attractive countrysides .… attracting discerning visitors in increasing numbers who appreciate that this 'spirit of Wales' is the equal in beauty of many existing national parks."

Felly beth aeth o'i le?

Gwrthwynebwyd y Gorchymyn gan y rhan fwyaf o'r awdurdodau a effeithiwyd, a chan ffermwyr, ac ym 1973 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Peter Thomas, ei benderfyniad i beidio â chadarnhau'r Gorchymyn, gan synnu a digio'r Comisiwn Cefn Gwlad. Gollyngwyd y syniad ac nid yw'r Comisiwn Cefn Gwlad na'i olynydd datganoledig, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) erioed wedi ei atgyfodi. Aeth Mynyddoedd Cambria yn angof: un o dirweddau harddaf Cymru a Lloegr, sy'n ddi-os yn haeddu statws Parc Cenedlaethol, ond sydd heb ei chydnabod na'i gwarchod o gwbl a hynny ar fympwy gwleidydd.

Wrth gyhoeddi ei wrthodiad, rhestrodd yr Ysgrifennydd Gwladol naw rheswm a nodwyd gan wrthwynebwyr i'r cynnig i greu Parc, a'r olaf o'r rhain oedd y byddai statws AHNE yn fwy priodol i Fynyddoedd Cambria na Pharc Cenedlaethol. O edrych yn ôl 30 mlynedd, mae rhywun yn synnu o ddysgu na cheisiodd y Comisiwn Cefn Gwlad achub rhywbeth o 8 mlynedd o waith trwy wneud cais am AHNE. Ond ar y pryd mae'n rhaid bod y Comisiwn wedi teimlo y caent eu gwrthod eto.

Cliciwch yma i weld mwy o hanes Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Cambria