Cymdeithas Mynyddoedd Cambria
Panoramâu
|
Mae tirweddau Mynyddoedd Cambria yn syfrdanol, nid cymaint
am yr harddwch naturiol llym sydd mor drawiadol mewn ardaloedd mwy mynyddig,
ond am y gorwelion eang, yr ymdeimlad o le, ac am y golygfeydd dros donnau'r
bryniau gwyllt sy'n diflannu i'r pellter. Mae bron yn amhosibl i lun cyffredin
wneud cyfiawnder â hanfod y llefydd hyn, felly dyma gasgliad bach
o banoramâu.
D.S. Mae rhai cyfrifiaduron yn gwrthod dangos
y panoramâu ac nid ydym wedi darganfod pam eto. Os na fydd eich
dewis cyntaf yn gweithio, byddwch cystal â derbyn ein hymddiheuriadau
a pheidiwch â gwastraffu'ch amser ar y gweddill.
| Safbwynt |
Cyfeirnod Grid a Lleoliad |
| Blaen Rhestr |
SN 844693 Blaen Rhestr, Cwm Elan |
| Carnyrhyrddod |
SN 790703 Carnyrhyrddod, i'r de o Gwmystwyth |
| Carreg Naw
Llyn |
SN 797699 Uwchlaw Llynnoedd Teifi |
| Cnwch |
SN 926636 Ger Pentref Elan |
| Cors Caron |
SN 693627 Golygfa o ganol Gwarchodfa Natur Genedlaethol
Unigryw |
| Craig Lan-las |
SN 758747 Ger Pontarfynach |
| Crugyn Ci |
SN 926687 Ger Rhaeadr Gwy |
| Dinas |
SN 743833 Bryngaer hynafol a golygfeydd ysblennydd dros Bumlumon
a blaenau dyffryn Rheidol |
| Garn Gron |
SN 741611 Ar ymyl Mynyddoedd Cambria ger Ystrad Fflur |
| Lan-du Fawr |
SN 788700 Tarddle afonydd Claerddu a Theifi |
| Pen Glog-fawr |
SN 748707 Ger Ysbyty Ystwyth |
| Pumlumon Fawr |
SN 790870 Y man uchaf ym Mynyddoedd Cambria |
| Trawsallt |
SN 779704 Ger Cwmystwyth |
Os na ddaethoch at y dudalen hon o wefan Cymdeithas
Mynyddoedd Cambria, cliciwch ar y cyswllt i fynd yno nawr
Cau'r Ffenestr
|